Australopithecus sediba

Australopithecus sediba
Amrediad amseryddol: 1.98–1.977 Miliwn o fl. CP
Pleistosen cynnar
Penglog "Karabo"
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primatiaid
Teulu: Hominidae
Genws: Australopithecus
Rhywogaeth: A. sediba
Enw deuenwol
Australopithecus sediba
Berger et al., 2010[1]

Hominid a math o Australopithecus a fu'n byw ar y Ddaear yn ystod y Pleistosen oedd Australopithecus sediba (neu A. sediba). Mae'r ffosilau o'i esgyrn yn perthyn i gyfnod o tua dwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Erbyn 2018 roedd chwech ysgerbwd wedi eu darganfod mewn ardal gyfoethog o ffosiliau: y Malapa yn Ne Affrica, gan gynnwys ffosil o laslanc (MH1 neu "Karabo"),[2] oedolyn benywaidd (MH2), oedolyn gwrywaidd a thri o blant bach.[1][3] Canfyddwyd yr holl ffosiliau yn yr un ogof, ble ymddengys iddynt ddisgyn i'w marwolaeth rhwng 1.977 ac 1.980 CP.[4][5]

Cafwyd hyd i dros 220 ffosil o'r rhywogaeth hon erbyn 2016.[1] Disgrifiwyd yr ysgerbydau'n wreiddiol mewn dau bapur yn y dyddlyfr Science gan y paleoanthropolegydd Lee R. Berger o Brifysgol Witwatersrand, Johannesburg a chydweithwyr iddo. Bathwyd y gair 'sediba' ganddo i ddisgrifio'r rhywogaeth newydd hon; ystyr "sediba" yn yr iaith Sotho yw "ffynnon".[1] Mae 34% o MH1 yn gyflawn ond nid yw'r cymalau'n sownd yn ei gilydd, a 45.6% o MH2 gyda rhai o'r prif esgyrn yn cysylltu a'i gilydd.[6]

Safana oedd tiriogaeth yr Australopithecus sediba a ffrwyth y fforest fyddai ei fwyd pob dydd, mae'n debyg - yn reit debyg i tsimpansîs yr ardal heddiw. Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, trodd eu hesgyrn yn ffosiliau gan eu prisyrfio'n dda. Roedd yn bosib i'r gwyddonwyr echdynnu phytolithiau planhigion o blac deintiol y dannedd.[7][8][9]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Berger, L. R.; de Ruiter, D. J.; Churchill, S. E.; Schmid, P.; Carlson, K. J.; Dirks, P. H. G. M.; Kibii, J. M. (2010). "Australopithecus sediba: a new species of Homo-like australopith from South Africa". Science 328 (5975): 195–204. doi:10.1126/science.1184944. PMID 20378811.
  2. Juliet King (4 Mehefin 2010). "Australopithecus sediba fossil named by 17-year-old Johannesburg student". Origins Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-25. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2011.
  3. Ann Gibbons (2011). "A new ancestor for Homo?". Science 332 (6029): 534. doi:10.1126/science.332.6029.534-a. PMID 21527693.
  4. African fossils put new spin on human origins story - BBC News - Jonathan Amos - Adalwyd 9 Medi 2011.
  5. Dirks, P. H. G. M.; Kibii, J. M.; Kuhn, B. F.; Steininger, C.; Churchill, S. E.; Kramers, J. D.; Pickering, R.; Farber, D. L. et al. (2010). "Geological setting and age of Australopithecus sediba from Southern Africa". Science 328 (5975): 205–208. doi:10.1126/science.1184950. PMID 20378812.
  6. Nodyn:Cite thesis
  7. Henry, Amanda G.; Ungar, Peter S.; Passey, Benjamin H.; Sponheimer, Matt; Rossouw, Lloyd; Bamford, Marion; Sandberg, Paul; de Ruiter, Darryl J. et al. (27 Mehefin 2012). "The diet of Australopithecus sediba". Nature. doi:10.1038/nature11185. http://www.nature.com/nature/journal/vaop/ncurrent/full/nature11185.html. Adalwyd 28 Mehefin 2012.
  8. Boyle, Alan (28 Mehefin 2012). "This pre-human ate like a chimp". MSNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-30. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
  9. Wilford, John Noble (28 Mehefin 2012). "Some Prehumans Feasted on Bark Instead of Grasses". New York Times. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.

Developed by StudentB